Cyfranogi

GWIRFODDOLI EFO NI

Mae Cymdeithas Hanesyddol ac Amgueddfa Penmaenmawr yn cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr yn eu hamser rhydd.

Os oes gennych ddiddordeb yn hanes Penmaenmawr, Penmaenan, Capelulo a Dwygyfylchi a'r ardaloedd cyfagos, a'ch bod yn chwilio am rywbeth a fydd yn eich helpu i ddysgu sgiliau newydd a chwrdd â ffrindiau newydd, efallai mai gwirfoddoli efo ni yw’r union beth!

Rydym yn grŵp cyfeillgar a gweithgar efo ystod eang o sgiliau a gwybodaeth. Mae gennym lawer o rolau ar gael i wirfoddolwyr yn yr amgueddfa, gan gynnwys:

  • cyfarfod a chyfarch ymwelwyr

  • ysgrifennu a gofalu am arddangosfeydd

  • catalogio’n casgliad

  • teipio a gwaith swyddfa

  • glanhau a hygyrchedd

  • helpu efo sgyrsiau a theithiau cerdded

  • gweinyddu cwsmeriaid yn ein siop goffi

  • ymchwilio i bynciau hanes

Er mwyn cefnogi'r rolau hyn, mae rhaglen o hyfforddiant gwirfoddol mewnol, ac yn achlysurol rydym yn sicrhau grantiau ar gyfer mentrau hyfforddi gwirfoddolwyr cyffrous fel recordio a golygu hanes llafar, archeoleg ac Iaith Arwyddion Brydeinig.

Os hoffech ddarganfod rhagor, cysylltwch â ni ar info@penmaenmawrmuseum.co.uk a byddwn yn cysylltu â chi.

DOD YN AELOD

Dyma rai o fanteision bod yn aelod o Gymdeithas Hanesyddol ac Amgueddfa Penmaenmawr:

  • mynediad am ddim i'n 6 sgwrs gaeaf

  • gostyngiad o 10% yn Siop yr Amgueddfa a’r Siop Goffi

  • yn perthyn i gymdeithas sy'n ymroddedig i warchod hanes Penmaenmawr

  • cylchlythyr chwarterol

Ein ffioedd blynyddol ar gyfer 2019/2020 yw:

  • aelod sy'n oedolyn - £15

  • cyd-aelodaeth - £25

  • oedolyn sy'n gwirfoddoli - £10

  • dan 16 oed - am ddim

Os hoffech wybod rhagor neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am aelodaeth, ffoniwch Chris ar 01492 621462 neu anfonwch e-bost atom: membership@penmaenmawrmuseum.co.uk

Ymunwch â ni trwy glicio ar y botwm hwn.