Digwyddiadau, Sgyrsiau a Theithiau Cerdded
Digwyddiadau
Mae’n mynd i fod yn Haf o Hwyl gydag Amgueddfa Penmaenmawr!
Thema ein rhaglen weithgareddau am eleni yw Tirwedd y Carneddau.
Gweithgareddau AM DDIM i blant a theuluoedd. Pob sesiwn galwch heibio unrhyw bryd rhwng 11yb - 4yp.
Sgyrsiau
Mae'r amgueddfa'n trefnu rhaglen o chwe sgwrs/darlith ar thema hanes bob blwyddyn. Mae'r rhaglen yn cael ei chynnal rhwng Hydref ac Ebrill.
Cynhelir y sgyrsiau yn Canolfan Gymunedol, o 7.00yp ar y 3ydd dydd Mercher o'r mis.
Mae mynediad am ddim i aelodau'r amgueddfa, a £4 i'r rhai nad ydyn nhw'n aelodau.
I gael gwybodaeth am ddod yn aelod o'r amgueddfa, a'r buddion, ewch i adran aelodaeth y wefan.
Teithiau Cerdded
Yn ystod misoedd yr hydref, mae'r amgueddfa'n trefnu rhaglen o deithiau cerdded treftadaeth tywysedig o amgylch Penmaenmawr.
Mae'r teithiau cerdded yn rhad ac am ddim i ymuno â nhw ac yn addas i deuluoedd, ond mae croeso bob amser i roddion i helpu efo'n costau yswiriant.
Cyhoeddir y rhaglen o deithiau cerdded ar gyfer 2025 yn fuan - cadwch olwg ar y wefan am wybodaeth.