HYGYRCHEDD

Parcio ceir

Mae parcio ar y stryd ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ar gael yn stryd fawr Penmaenmawr. Yn dibynnu ar y lleoedd sydd ar gael, mae'r pellter i'r amgueddfa o'r parcio ar y stryd rhwng 10 metr a 50 metr.

I gael mynediad diogel i'ch cerbyd ac oddi yno, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r cyfleusterau parcio ceir yn Fernbrook Road os yn bosibl. Gweler yr adran ‘Ymweld â Ni’ ar ein gwefan i gael cyfarwyddiadau.

O faes parcio Fernbrook Road:

Ar ben y maes parcio, tu allan i'r llyfrgell, mae dau parcio Bathodyn Glas dynodedig.

Mae mynediad ramp i'r stryd fawr rhwng y toiledau cyhoeddus a'r llyfrgell gyhoeddus.

  • Dilynwch y ramp i'r stryd fawr a throwch i'r dde i'r palmant hygyrch (tua 1.7m o led, gan ledu i tua 3m o led)

  • Dilynwch y palmant o gwmpas i'r dde, nes i chi gyrraedd cwrbyn wedi’i ostwng ar eich chwith.

  • Croeswch y ffordd wrth ymyl y cwrbyn wedi’i ostwng. Mae cwrbyn wedi’i ostwng arall ar yr ochr arall, a phan gyrhaeddwch ef, ewch i'r chwith a dilynwch gromlin y palmant o gwmpas i'r dde (mae'r palmant yma tua 1.7m o led, yn lledu i tua 2m o led)

  • Parhewch yn syth ymlaen am tua 50 metr.

  • Mae Amgueddfa Penmaenmawr ar y dde, gyferbyn â Mountain View bunkhouse.

  • Mae'r palmant y tu allan i'r amgueddfa tua 1.4m o led ac mae'r fynedfa i'r amgueddfa yn wastad gyda drws 1.2m o led.

Yn yr amgueddfa

Lleiafswm lled drysau a choridorau yw 1.2m ac mae’r cynllun mannau cyhoeddus a'r toiled cyhoeddus yn caniatáu mynediad a throi i gadeiriau olwyn. Mae lloriau’r amgueddfa'n wastad a fyddwch chi ddim yn dod ar draws rampiau na grisiau.

Cyfleusterau toiled

  • mae'r toiled a'r ystafell ymolchi yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae ganddo reiliau cynnal

  • mae'r tap a’r peiriant sebon yn awtomatig ac yn gweithio trwy osod eich dwylo oddi tanynt

  • mae'r bwrdd newid babanod wedi'i leoli ar wal dde'r ystafell ymolchi

  • mi welwch glytiau a chynhyrchion misglwyf mewn bag sy'n hongian i'r chwith o'r bwrdd newid babanod, rhag ofn y bydd eu hangen arnoch

  • y tu allan i ddrws y toiled, mae cadair i ofalwyr aros am y person y maen nhw efo fo/hi.

Lifft

Mae lifft hygyrch i gadeiriau olwyn ar gael os oes arnoch chi fynediad i'r llawr cyntaf.

Cŵn cymorth

Mae croeso i ymwelwyr â chŵn cymorth.

Dolen clyw

Mae dolen glyw wedi’i gosod yn oriel a siop goffi yr amgueddfa. I gael mynediad i'r ddolen, newidiwch eich cymorth clywed i'r safle T.

Iaith Arwyddion Brydeinig (IAB)

Mae rhai o wirfoddolwyr yr amgueddfeydd yn dysgu Iaith Arwyddion Brydeinig (IAB) a byddent yn croesawu'r cyfle i wella’u sgiliau efo ymwelwyr sy'n defnyddio IAB. Byddwch chi hefyd yn dod o hyd i wybodaeth am hanes lleol mewn IAB ar sgriniau digidol yr amgueddfa.

Llinyn gwddf blodyn yr haul

Mae llinynnau gwddf blodyn yr haul ar gael wrth y cownter yn y siop goffi ac wrth ddesg y dderbynfa. Os dewiswch chi wisgo’r llinyn gwddf, bydd ein wirfoddolwyr yn deall bod gennych anabledd cudd ac efallai y byddwch chi eisiau ychydig o help neu fwy o amser. Dydych chi ddim angen egluro pam rydych chi'n defnyddio’r llinyn gwddf neu ddarparu prawf o anabledd. Maent yn rhad ac am ddim i'w defnyddio.

Siop goffi

Mae siop goffi’r amgueddfa yn gweini diodydd poeth, diodydd oer, bisgedi, creision a chacennau. Mae'r siop goffi ar agor bob dydd rhwng 10yb a 4yp. Os oes gennych unrhyw alergeddau neu ofynion dietegol penodol, siaradwch ag un o'n gwirfoddolwyr sy'n gwasanaethu yn y siop goffi cyn archebu.

Canllawiau clir

Mae canllaw clir i'r amgueddfa ar gael i'w lawrlwytho yma.

Mae copïau hefyd ar gael yn yr amgueddfa.

Mae canllaw clir sy'n dangos y daith o'r maes parcio i'r amgueddfa ar gael yma.